Yr ymgeisydd Eisteddfod 'Ap Emlyn' wedi dod i'r fei
- Cyhoeddwyd

Mae ymgeisydd oedd heb gynnwys amlen dan sêl yng nghystadleuaeth y ddrama hir yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi dod i'r fei i gadarnhau ei fanylion.
Gyda'r dyddiad cau ar gyfer cyfansoddiadau Eisteddfod Sir Gâr wedi pasio ers wythnos, mae'r gwaith o roi trefn ar y bwndeli o geisiadau a'u didoli i feirniaid yn cyrraedd tua'r terfyn.
'Ap Emlyn' yw'r ffugenw, a chais ar gyfer y gystadleuaeth ddrama hir a'r Fedal Ddrama yw'r gwaith sydd wedi dod i law.
Petai gwaith 'Ap Emlyn' wedi dod i'r brig a'r Eisteddfod heb dderbyn yr amlen, fyddai dim modd ei wobrwyo ef neu hi heb yr wybodaeth sydd i fod wedi'i chynnwys yn yr amlen dan sêl.
Nawr, gall yr Eisteddfod anfon gwaith 'Ap Emlyn' at y beirniaid gyda gweddill y ceisiadau.
Meddai'r trefnydd Elen Elis: "Mae'r gwaith yn cael ei anfon at y beirniaid yn gwbl anhysbys, ond petai gwaith 'Ap Emlyn' yn haeddu'r Fedal Ddrama, fyddai dim modd i ni gysylltu gydag ef neu hi heb yr amlen dan sêl, gan mai dyma'r unig le y ceir manylion cyswllt yr awdur a'i enw.
"Dim ond un amlen sy'n cael ei hagor, a'r un gydag enw'r buddugwr yw honno. Mae'r gweddill yn cael ei anfon i'r archif heb ei gyffwrdd, ac mae cyfrinachedd yn rhan hollbwysig o'r broses."
Straeon perthnasol
- 7 Ebrill 2014