Arian i drwsio arfordir Cymru wedi'r tywydd garw
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o £855,000 i helpu i wneud yn siŵr fod Cymru'n barod ar gyfer y tymor ymwelwyr ar ôl tywydd mawr y gaeaf.
Mae'r rhannau o Lwybr Arfordir Cymru a ddioddefodd oherwydd y tywydd garw, yn ogystal â thref Aberystwyth, wedi cael nawdd.
Mae bron i dair miliwn o bobl yn ymweld â Llwybr yr Arfordir bob blwyddyn ac mae £545,000 wedi'i neilltuo i drwsio'r rhannau o'r llwybr gafodd eu difrodi gan dywydd mawr Rhagfyr ac Ionawr, a hynny mewn pryd ar gyfer tymor yr haf.
Caiff yr arian ei roi i'r 17 awdurdod lleol ddioddefodd waethaf.
Prom Aberystwyth
Aberystwyth oedd un o'r lleoedd gafodd ei daro waethaf gan stormydd ym mis Ionawr a bydd yn elwa o £310,000 i adfer y prom a chael yr ardal yn ôl ar ei thraed ar gyfer ymwelwyr y gwanwyn a'r haf.
Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i drwsio arwyneb y prom ac i godi goleuadau, rheiliau a chelfi stryd fel meinciau, biniau a pholion baneri newydd.
Bydd yn rhaid trwsio wal y prom hefyd a'i hailbwyntio.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, sydd wedi cydlynu pecyn ariannol Llywodraeth Cymru yn sgil y tywydd mawr:
"Rydym am helpu'r cymunedau a gafodd eu taro gan y tywydd mawr ym mhob ffordd y gallwn.
"Rydym eisoes wedi neilltuo gwerth dros £10m ar gyfer gwaith trwsio amddiffynfeydd, i adfer y rhannau o'r arfordir a ddifrodwyd ac i helpu busnesau a ddioddefodd.
"Trwy neilltuo arian ychwanegol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ac adfywio Aberystwyth, gallwn wneud yn siŵr y bydd pobl yn dal i ddod i Gymru i fwynhau popeth sydd gennym i'w gynnig."
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths:
"Mae Llwybr yr Arfordir yn uchel ei barch trwy'r byd ac yn rhoi hwb o fwy na £30 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.
"Mae'r arian hwn yn golygu fod gan awdurdodau lleol y modd i adfer y llwybr i'r safon y mae ymwelwyr bellach yn ei disgwyl."
Straeon perthnasol
- 5 Ebrill 2014
- 6 Mawrth 2014
- 5 Mawrth 2014
- 3 Ionawr 2014
- 3 Ionawr 2014