Plaid Cymru yn galw am ddysgu mwy o ieithoedd i blant
- Cyhoeddwyd
Ieithoedd modern
Fe ddylai plant ysgolion cynradd yng Nghymru ddysgu iaith ychwanegol yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, yn ôl Plaid Cymru.
Mae'r blaid wedi cyhoeddi papur yn edrych ar fodel addysg Ewropeaidd, lle mae'n arferol i ddysgu nifer o ieithoedd o oedran ifanc.
Yn ogystal, mae'r papur yn trafod dulliau i wella'r ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu.
Dywedodd Simon Thomas, llefarydd addysg Plaid Cymru, fod cyflogwyr wedi pwysleisio bod yna "fwlch sgiliau" ieithoedd modern ac nad ydyn nhw'n gallu cyflogi digon o weithwyr gyda sgiliau ieithyddol da.
Manteision
Meddai Mr Thomas: "Mae cyflogwyr yn dweud wrthym, er eu bod yn cyfrif bod ieithoedd yn sgìl bwysig, nad ydyn nhw'n gallu recriwtio digon o staff gyda sgiliau iaith cryf.
"Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn economi byd-eang, lle mae'r galw am sgiliau iaith yn ehangu.
"Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae dysgu o leiaf ddwy iaith ychwanegol yn orfodol i ddisgyblion.
"Mae ymchwil yn dangos fod y gallu i gyfathrebu mewn o leiaf ddwy iaith yn fanteisiol i blentyn.
"Mae hefyd yn creu manteision economaidd trwy agor y drws i fwy o swyddi, cryfhau ein gweithlu a'n gwneud yn fwy sefydlog mewn economi byd-eang.
"Rydym hefyd eisiau gwella dysgu Cymraeg.
"Ar hyn o bryd, nid yw hyd at hanner y myfyrwyr sy'n astudio Cymraeg fel ail iaith yn ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg ar ddiwedd y cwrs.
"Profwyd fod cyflwyno Cymraeg fel rhan o'r Cyfnod Sylfaen wedi cael effaith lesol."
Straeon perthnasol
- 4 Chwefror 2014
- 4 Chwefror 2014
- 23 Ionawr 2014
- 30 Hydref 2013