Hwb ariannol i Fenter RecRock yng Nghaerffili
- Cyhoeddwyd

Mae menter gymdeithasol sydd yn helpu pobl mewn ardal ddifreintiedig ddysgu am gerddoriaeth a sut i chwarae offerynnau, wedi derbyn grant gwerth £500,000
Bydd, RecRock o Gaerffili, yn defnyddio'r arian i brynu fan, datblygu brandio gwell a chreu hyd at bump o swyddi newydd.
Mae'r arian wedi ei roi gan Raglen Datblygu Economaidd Cymunedau De-Ddwyrain Cymru sy'n cael ei ariannu gan Ewrop ac yn rhedeg yn ardaloedd Cynghorau Sir, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Rhondda Cynon Taf a Torfaen.
Y bwriad yw gweld yr elusen yn tyfu.
Hunangynhaliol
Dywedodd Jack Cooper un o sefydlwyr RecRock, bod derbyn yr arian am newid dyfodol y fenter yn gyfan gwbl.
Meddai: "Mae hyn yn gwneud i ni deimlo'n fwy hyderus y gallwn ddod yn hunangynhaliol.
"Nid yn unig gallwn greu fwy o swyddi, ond mi fedrwn roi rhywbeth yn ôl i'r ardal a'i chymuned gan gefnogi mentrau ac elusennau eraill."
Sefydlwyd RecRock llynedd gan hen ffrindiau ysgol, gitarydd proffesiynol Daniel Fitzgerald o Rhisga a'r drymiwr Jack Cooper.
Wedi eu dadrithio ar ôl chwilio yn aflwyddiannus am waith ar ôl graddio, penderfynodd y ddau fynd ati i ddechrau busnes eu hunain trwy roi'r cyfle i bobl chwarae offerynnau cerddorol.
Gwnaethant hyn drwy gynnal gweithdai pwrpasol yn cynnwys defnyddio technoleg ddiweddaraf megis iPads, i greu miwsig.
Ychwanegodd Mr Cooper: "Sefydlwyd y busnes, oherwydd bod y gost o wersi ac offerynnau yn golygu bod pobl mewn ardaloedd difreintiedig yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol.
"Rydym eisiau cysylltu gyda'r bobl er mwyn rhoi'r cyfle iddynt sylwi bod ganddynt dalent a chyrraedd eu potensial."
Codi hyder
Un o'r sefydliadau sydd wedi defnyddio RecRock ydi adran Casnewydd o Urdd Sant Ioan Cymru.
Dywedodd Jasmine Paffey o'r adran bod ei haelodau ifanc wedi cael budd trwy sesiynau cerddorol.
Meddai: "Mae gweld y newid yn lefelau hunan hyder rhai o'n cadlanciau wedi bod yn rhyfeddol yn enwedig y rhai distaw."