Dŵr 'wastad yng nglofa'r Gleision'
- Cyhoeddwyd

Mae rheithgor yn Llys y Goron Abertawe wedi clywed bod dŵr wastad yn bresennol yng nglofa'r Gleision lle bu farw pedwar dyn yn 2011.
Cafodd David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, eu lladd wedi i hyd at 650,000 galwyn o ddŵr lifo i'r lofa.
Mae rheolwr y pwll, Malcom Fyfield, a'r perchnogion, MNS Mining, yn gwadu cyhuddiadau o ddynladdiad.
Ddydd Mawrth, clywodd y llys gan Raymond Thomas, oedd yn rhan o grŵp a brynodd y lofa yn 1998.
Dywedodd Mr Thomas bod dŵr wastad yn "dod i mewn drwy'r llawr a'r tô", ond ei bod yn credu bod amodau o fewn y lofa yn dda o'i gymharu â glofeydd bychain eraill.
Yn 2005, daeth gwaith i ben oherwydd gostyngiad ym mhris glo.
Clywodd y llys bod y brodyr, Gerald a Tony Ward wedi cymryd cyfrifoldeb am y lofa yn 2008, ond bod Mr Thomas wedi cael cais i ddychwelyd fel rheolwr yn 2011 gan fod y rheolwr ar y pryd yn dioddef o broblemau iechyd.
Bu Mr Thomas yn rheoli'r safle tan i Malcolm Fyfield gymryd yr awenau ym mis Gorffennaf 2011.
'Shambls'
Clywodd y llys hefyd am adeg pan oedd Mr Thomas yn gweithio yno, pan nad oedd syrfëwr wedi gallu mynd i'r lofa oherwydd bod rhan o'r to wedi dymchwel.
Disgrifiodd yr olygfa y tu mewn ar y pryd fel "shambls".
Er hynny, dywedodd bod amodau yn y lofa yn dda o'i gymharu â glofeydd bychain eraill.
Mae'r rheithgor eisoes wedi clywed am achosion yn 2009 a 2011 pan gafodd cwynion eu gwneud am bryderon ynglŷn â'r pwll.
Mae Mr Fyfield yn gwadu dynladdiad drwy esgeulustod, tra bod MNS Mining yn gwadu dynladdiad corfforaethol.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 7 Ebrill 2014
- 1 Ebrill 2014
- 28 Mawrth 2014