Cymeradwyo cynllun lido newydd Aberafan
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir wedi cymeradwyo cynllun i adeiladu canolfan hamdden newydd ar safle un gafodd ei losgi pedair blynedd yn ôl.
Mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Castell Nedd Port Talbot, penderfynodd y cabinet o blaid y ganolfan newydd yn Aberafan.
Cafodd hen Lido Afan ei ddinistrio gan dân yn 2009, cyn cael ei ddymchwel yn 2011.
Fe all y gwaith adeiladu ar y ganolfan newydd ddechrau erbyn diwedd mis Ebrill.
Fe fydd y ganolfan newydd yn cynnwys pwll nofio wyth lon, caffi, canolfan ffitrwydd a neuadd chwaraeon.
Cafodd Lido Afan ei agor ym 1965 gan y Frenhines a Graham Jenkins, brawd yr actor Richard Burton a rheolwr cynta'r ganolfan.
Dros y blynyddoedd, cafodd nifer o gyngherddau mawr eu cynnal yno, gydag ystod eang o berfformwyr - o Spencer Davies i Pink Floyd, ac yn fwy diweddar, Coldplay a McFly.
Ond ym mis Rhagfyr 2009, bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi a chafodd ffyrdd eu cau wrth i dros 100 o ddiffoddwyr geisio diffodd tân ar y safle.
Bu'r gwaith o glirio'r adeilad yn broses gymhleth oherwydd bod yna asbestos ar y safle.
Mae'r asbestos bellach wedi'i dynnu oddi yno.
Roedd 2,628 o bobl wedi cyfrannu at ymgynghoriad gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar gynlluniau i godi canolfan newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2011
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2010
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2009
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2009