Cymraes ar goll yn Nulyn
- Cyhoeddwyd
Cafodd ei gweld yn Nulyn fore Llun
Mae'r heddlu yn Iwerddon yn chwilio am ferch 20 oed o Gymru sydd ar goll.
Nid yw'r Gardaí yn gwybod lle mae Laura Harris ers iddi gael ei gweld ddiwethaf am 5:30 fore Llun yn St James's Street yn Nulyn.
Mae wedi diflannu o'i chartre' yng Nghymru ers Mawrth 15.
Yn ôl yr heddlu, mae hi'n bum troedfedd pum modfedd o daldra gyda llygaid gwyrdd a gwallt du hir a chyrliog.
Pan gafodd ei gweld ddiwethaf roedd yn gwisgo top du, siaced las a legins du.
Gall unrhyw un â gwybodaeth amdani gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 01-6669000 neu eu llinell gyfrinachol, 1800-666-111.