Arestio dau wedi tân mewn tŷ yn Nhowyn

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o dyfu canabis yn dilyn tan mewn tŷ yn Nhowyn ger y Rhyl.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gartref ar Ffordd y Bryn am tua 2:20am fore Mercher.

Dywedodd yr heddlu bod 20 o blanhigion canabis a nwyddau cysylltiedig wedi eu darganfod. Mae'r dynion, sy'n 28 a 49 oed, wedi eu cadw yn y ddalfa.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd bod dynes wedi llwyddo i ddianc o'r tŷ a chafodd ei chludo i'r ysbyty yn dioddef o effaith anadlu mwg.

Cafodd criwiau o Abergele a'r Rhyl eu galw i ddelio gyda'r tân.

Mae achos y tân yn dal i fod dan ymchwiliad.