Achos llys gwrthdrawiad cychod Bae Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod dau o hwylwyr ifanc gorau Prydain wedi taro yn erbyn ei gilydd mewn cychod cyflym, gan adael merch ysgol gydag anafiadau i'w hymennydd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Nia Jones ac Eleni Morus, oedd yn 17 ar y pryd, wedi taro ei gilydd ym Mae Caerdydd ym mis Hydref 2010.
Roedden nhw'n cludo merched rhwng 10 ac 14 oed, oedd ar gwrs hwylio, mewn tywyllwch.
Mae'r merched wedi cyfaddef gyrru'r cychod heb oleuadau ond yn gwadu gyrru yn rhy gyflym a methu a chadw golwg digonol.
Gwrthdrawiad
Clywodd y llys fod y gwrthdrawiad mor ffyrnig fel bod dwy ferch wedi eu taflu i'r dŵr, tra bod trydedd wedi disgyn hanner ffordd i mewn.
Cafodd pedwaredd ferch anafiadau i'w hymennydd wedi iddi gael ei thaflu o un cwch i'r llall.
Roedd Miss Jones a Miss Morus wedi bod â'r merched ifanc i ganolfan sglefrio iâ ac yn dychwelyd i'w hostel yn hwyr yn y nos pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Clywodd y llys fod rhai o'r teithwyr wedi annog Miss Jones i yrru'n gyflymach.
Dywedodd teithiwr fod Miss Jones wedi cael rhybudd i beidio â gyrru dros donnau'r cwch arall, fel yr oedden nhw wedi gwneud yng ngolau dydd.
Dywedodd y tyst bod y prif hyfforddwr, Nick Sawyer, wedi rhybuddio Miss Jones i beidio â gwneud hyn yn y tywyllwch.
'Neidio dros donnau'
Er hynny, meddai, dechreuodd Miss Jones "neidio dros donnau" cwch Miss Morus yn fuan wedyn.
"Roedden ni wedi neidio bump neu chwech o weithiau ac yna roedd ergyd - digon i daflu pobl allan i'r dŵr," meddai'r ferch oedd yn 14 ar y pryd.
"Roeddwn i'n gallu gweld y cwch arall ychydig cyn y gwrthdrawiad.
"Doedd dim mamser i symud na gweiddi," meddai.
Dywedodd Oliver Willmott, ar ran yr erlyniad, fod pedwar cwch cyflym wedi croesi Bae Caerdydd, a hynny yn anghyfreithlon heb oleuadau.
"Roedd dau o'r cychod yn fwy pwerus na'r lleill a rhedodd y diffynyddion i'r lanfa er mwyn sicrhau mai nhw fyddai yn eu gyrru," meddai.
"Nicholas Sawyer oedd prif hyfforddwr y cwrs hwylio a dywedodd wrth y merched i fod yn ofalus."
Mae Mr Sawyer a Chlwb Hwylio Bae Caerdydd, oedd wedi trefnu'r cwrs, wedi cyfaddef troseddau yn ymwneud â'r digwyddiad a thorri rheolau iechyd a diogelwch.
Mae'r achos yn parhau.