Cameron yn malio dim am iechyd Cymru medd Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones a David CameronFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Ar Radio Wales, dywedodd Carwyn Jones nad oedd David Cameron yn 'malio dim' am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Dydy David Cameron ddim yn poeni am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Yn siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Jones hefyd bod llywodraeth y DU wedi cynllwynio gyda'r wasg ynglŷn â stori am swyddog meddygol yn y fyddin yn pryderu am amseroedd aros ysbytai yng Nghymru.

Yn ymateb i ymosodiad diweddaraf Mr Cameron ar lywodraeth Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Mr Jones: "Mae'n dod yn ychydig o obsesiwn iddo fe.

"Dwi ddim yn meddwl ei fod yn malio dim am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

"Beth mae'n ceisio ei wneud yw dargyfeirio sylw oddi wrth ei broblemau ei hun - mae'n hen dric."

'Rhedeg i ffwrdd'

Yn siarad ar raglen Jason Mohammad, dywedodd Mr Jones bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn "rhedeg i ffwrdd" o stori ddaeth allan ddydd Sul am aelodau'r lluoedd arfog yn gorfod aros yn hirach ar restrau aros yng Nghymru nag mewn ardaloedd eraill o'r DU.

Roedd y stori wedi ei seilio ar gofnodion o gyfarfod rhwng swyddogion iechyd, pan wnaeth prif swyddog meddygol y lluoedd arfog godi ei bryderon.

Dywedodd y prif weinidog nad oedd cofnodion "erioed wedi eu cytuno".

"Daeth hyn yn hollol ddirybudd. Galla'i weld beth sydd wedi digwydd. Mae rhyw ymgynghorydd arbennig yn Llundain wedi meddwl ei bod hi'n syniad da i roi'r stori i rai o'r papurau fel ffordd o'n beirniadu ni."

Ychwanegodd bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymateb i gais i ryddhau'r dogfennau dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth "o fewn oriau".

"Cydgynllwynio - does dim amheuaeth o hynny yn fy meddwl i."

"'Beth am i ni feirniadu llywodraeth Cymru a defnyddio ein milwyr ar gyfer pwrpas gwleidyddol ein hunain' - dwi'n gwybod ei bod hi'n swnio'n ddramatig i ddweud hynny, ond does dim amheuaeth bod hwn yn ffordd o ddefnyddio ein cyn-filwyr, pobl sydd wedi ymladd dros y wlad, fel ffordd o ymosod ar un rhan o'r DU am resymau gwleidyddol."