Digwyddiad cemegol: 10 yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiad cemegol wedi bod mewn ffatri yn Saltney ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae'r cwmni, sef English Provender Company, wedi dweud bod hyn wedi digwydd yn ystod proses lanhau arferol ar y safle.
Maen nhw hefyd wedi dweud ei bod nhw wedi 'delio â'r sefyllfa o fewn y safle'.
Cafodd 10 o bobl eu hanfon i'r ysbyty ond maent mewn cyflwr sefydlog.
Cafodd dau gerbyd ymateb brys a phedwar ambiwlans a chriwiau tân eu gyrru i'r safle fore Mercher.
Mae'r cwmni yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad er mwyn deall yr amgylchiadau.