Agor cwest bachgen 15 oed Simon Brooks

  • Cyhoeddwyd
Simon a Julie Brooks
Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i fam Simon Brooks rhoi tystiolaeth yn ystod y cwest

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth Simon Brooks, y bachgen 15 oed wnaeth farw wythnos diwethaf yn yr ysbyty.

Mae ei deulu yn dweud ei fod wedi dioddef blynyddoedd o fwlio yn yr ysgol.

Dywedodd y crwner ei fod yn credu bod Simon Brooks wedi cymryd meddyginiaeth a sylweddau eraill. Mi gafodd ei anfon i'r ysbyty ddydd Mawrth diwethaf ond mi waethygodd ei gyflwr ac mi fuodd o farw.

Yn ôl y crwner bwriad y cwest ydy ateb y cwestiynau pwy, lle, pryd a sut y buodd Simon farw.

Mae wedi dweud wrth y teulu efallai y bydd tystion yn rhoi tystiolaeth neu y bydd datganiadau yn cael eu darllen ganddynt.

Mae disgwyl i fam y bachgen, Julie Brooks, patholegydd, yr heddlu ac ymgynghorwyr ysbytai roi tystiolaeth.

Yn ystod y cwest yn Aberdâr dywedodd y crwner bod Julie Brooks wedi codi pwyntiau ynglŷn â'r driniaeth gafodd ei mab yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mi gafodd ei symud o'r ysbyty i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Mae disgwyl i'r cwest ddechrau ym mis Gorffennaf.