Teyrnged i'r beiciwr modur fu farw ger Llanrwst

  • Cyhoeddwyd
Brian Murray
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd ei deulu ei fod yn caru ei feic modur

Mae teulu dyn wnaeth farw yn dilyn damwain ar yr A470 yn Llanrwst Ebrill y cyntaf wedi talu teyrnged iddo gan ddweud bod eu bywydau yn "wag hebddo".

Roedd Brian Murray yn 55 oed ac yn dod o ardal Corwen.

Roedd yn teithio ar gefn ei feic modur tuag at Lan Conwy o Lanrwst pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhyngddo â char.

Dywedodd ei wraig Debbie: "Mae fy mywyd yn wag hebddo ac rwyf wedi torri 'nghalon."

Ychwanegodd ei ferch, Jessica: "Roedd yn caru ei feic modur a gallai neb fod wedi ei atal o rhag gwneud beth yr oedd yn ei garu."

Dywedodd ei fab, Christopher fod ei dad yn "ffrind da" iddo. "Unrhyw broblem mi fyddai'n gwybod sut i'w datrys hi," meddai.

Mae'r heddlu yn dal i ofyn i lygad dystion gysylltu gyda nhw. Gellir gwneud hynny trwy ffonio 101.