Cerddwr yn cael ei daro gan gar yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r traffig yn yr ardal yn drwm
Mae dyn yn ei ugeiniau wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau difrifol wedi iddo gael ei daro gan gar yng Nghaerdydd.
Roedd yn cerdded pan ddigwyddodd y ddamwain ar lôn allanol yr A470 Ffordd y Gogledd ger Pont Maendy.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei galw i'r ardal am 3pm.
Cafodd y ffordd ei chau i gyfeiriad y gogledd am awr a hanner wrth i'r gwasanaethau brys ddelio â'r sefyllfa.
Mae'r digwyddiad wedi achosi tagfeydd traffig rhwng Ffordd Fairoak a Rhodfa'r Gorllewin a hefyd wedi effeithio ar y traffig rhwng Heol Corbett a Heol Crwys .