Apelio am wybodaeth am blismyn ffug yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn byrgleriaeth yng Nghaerdydd lle targedwyd pensiynwr gan dri dyn yn smalio bod yn blismyn.
Digwyddodd hyn ar ffordd Ffagan wrth y gyffordd a ffordd Norbury, yn ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd, ar nos Wener, Ebrill 4ydd am 8.30pm.
Gwthiodd tri o ddynion yn eu hugeiniau oedd yn dweud eu bod yn blismyn, i mewn i fflat.
Anafu
Roedd y ddynes 80 oed sy'n byw yno a'i merch yng nghyfraith 71 oed, wedi eu hanafu oherwydd y nerth a ddefnyddiwyd i dorri mewn.
Cafodd llaw'r ddynes iau ei thorri
Er ymdrechion mab y ddynes 80 oed i daclo'r troseddwyr, cafodd sêff ei gymryd o'r tŷ, ond doedd dim byd tu fewn iddo.
Gadawodd y troseddwyr mewn car Audi lliw arian neu lwyd, yn mynd i gyfeiriad Rhodfa'r Gorllewin.
Mae ditectifs yn apelio am lygaid dystion.
Mae'r heddlu yn credu bod y car wedi teithio ar hyd Rhodfa'r Gorllewin ar gyflymder uchel gan basio car cyn mynd drwy olau coch i gyfeiriad gyfnewidfa Gabalfa.
Roedd y car wedi ei weld yn gynharach ar y diwrnod yn ardal Tredelerch a Llaneirwg.
Brawychus
Meddai Ditectif Rhingyll, Daniel Sweeney: "Roedd hyn yn ddigwyddiad brawychus ac mae yna ymchwiliad llawn yn parhau i ddarganfod y rhai sy'n gyfrifol."
Cyhoeddodd yr heddlu disgrifiad o'r tri.
Mae'r dyn cyntaf gyda chorff main i athletig, yn gwisgo menig a siaced lliw golau/llwydfelyn.
Yr ail ddyn yn wyn, a ganddo gorff main, gyda gwallt lliw golau neu gringoch, roedd yn gwisgo cap pêl fas, siaced du neu glas tywyll a jîns glas.
Disgrifiwyd y trydydd dyn, yn wyn a main, yn siarad gydag acen Wyddelig, yn gwisgo cap pêl fas tywyll, siaced ddu gyda sip ac yn gwisgo jîns glas.
Mae'r heddlu yn cynghori pobl i ofyn am gerdyn adnabod cyn gadael unrhyw berson i mewn i'r cartref.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth cysylltwch â heddlu De Cymru, drwy ffonio CID Tyllgoed ar 02920527248, Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacla yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1400114572.