Achub teulu o'r mwd yn Nhraeth Coch, Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Mae bad achub RNLI a Gwylwyr y Glannau Moelfre wedi achub teulu oedd wedi eu dal gan y llanw ar wastadeddau llaid yn Nhraeth Coch ger Benllech, Ynys Môn.
Roedd y teulu wedi cael ei amgylchynu am ddwy awr ar ddydd Mawrth, Ebrill 8.
Roedd y môr o fewn metrau atynt pan achubwyd y person olaf.
Pan gyrhaeddodd y bad achub Traeth Coch roedd tîm o achubwyr Gwylwyr y Glannau o Foelfre yn gallu cadarnhau bod dau o'r tri aelod o'r teulu yn ddiogel.
Anodd ei chyrraedd
Ond roedd yr un olaf, menyw, hyd at ei chanol mewn mwd.
Roedd yn rhaid i David Booker a Vince Jones, dau o wirfoddolwyr yr RNLI, gerdded trwy'r dŵr er mwyn cyrraedd y ddynes.
Cafodd y ddynes ei thynnu o'r mwd gydag ond munudau yn weddill
Doedd y fenyw ddim gwaeth er ei phrofiad brawychus.
Meddai Mr Booker: "Er bod y llanw'n dod i mewn yn gyflym fe wnaed pob dim yn iawn, gan sicrhau bod pawb oedd yn rhan o'r ymdrech yn ddiogel."