Nigel Evans: Rheithgor yn parhau i ystyried
- Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor yn yr achos yn erbyn cyn ddirprwy lefarydd Tŷ'r Cyffredin, Nigel Evans, yn parhau i ystyried eu dyfarniad am ail ddiwrnod.
Mae aelod seneddol Ribble Valley, sy'n wreiddiol o Abertawe, yn wynebu naw cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn saith dyn gwahanol, ac mae'n gwadu'r cyfan.
Plediodd yn ddieuog i gyhuddiad o dreisio, pump o ymosod yn rhywiol, un o geisio ymosod yn rhywiol a dau o ymosod yn anweddus.
Digwyddodd y troseddau honedig rhwng Ionawr 2002 ac Ebrill 2013.
Clywodd y llys bod Mr Evans wedi cyfaddef iddo gael rhyw gydag un o'r dynion, ond fod y dyn wedi cytuno i hynny yn fflat Mr Evans yn Pendleton, Sir Gaerhirfryn.
Mae Mr Evans hefyd wedi'i gyhuddo o ymosodiadau yn erbyn tri dyn ar dir y senedd yn San Steffan, ond dywedodd wrth y llys bod y tri wedi dweud celwydd.
Pan gafodd Mr Evans ei gyhuddo o'r troseddau, fe adawodd ei swydd fel dirprwy lefarydd. Er hynny mae'n dal yn AS dros Ribble Valley ond yn cynrychioli'r sedd fel aelod annibynnol.
Straeon perthnasol
- 1 Ebrill 2014
- 31 Mawrth 2014
- 27 Mawrth 2014
- 26 Mawrth 2014
- 25 Mawrth 2014
- 21 Mawrth 2014
- 20 Mawrth 2014
- 19 Mawrth 2014
- 18 Mawrth 2014
- 17 Mawrth 2014
- 13 Mawrth 2014
- 12 Mawrth 2014
- 11 Mawrth 2014
- 10 Mawrth 2014
- 24 Ionawr 2014