Morgannwg yn curo Surrey
- Cyhoeddwyd

Mae Morgannwg wedi ennill eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Surrey o ddeg wiced.
Dyma'r tro cyntaf ers 1998 i'r sir o Gymru ennill eu gêm agoriadol.
Ar ôl bowlio Surrey allan am 81 yn eu hail fatiad nhw, roedd angen 153 ar yr ymwelwyr i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Llwyddodd Gareth Rees (75) a Will Bragg (72) i gyrraedd y nod yn gymharol hawdd cyn amser te ar y pedwerydd diwrnod.
Arwyr bowlio Morgannwg oedd Graham Wagg a Michael Hogan wrth i Wagg gipio chwe wiced a Hogan pedair yn ail fatiad Surrey.
Gêm nesaf Morgannwg fydd eu hymddangosiad cyntaf yn Stadiwm Swalec y tymor hwn wrth i Sir Gaerloyw ymweld â Chaerdydd ar Ebrill 20.
Surrey v. Morgannwg; Yr Oval; Sgor terfynol :-
Surrey -
(batiad cyntaf) = 280
(ail fatiad) = 81
Morgannwg -
(batiad cyntaf) = 209
(ail fatiad) = 156 heb golli
Morgannwg yn fuddugol o 10 wiced.
Straeon perthnasol
- 6 Ebrill 2014