Dod o hyd i Gymraes oed wedi bod ar goll yn Nulyn

Laura Harris
Image caption Cafodd ei gweld yn Nulyn fore Llun

Mae'r heddlu yn Iwerddon wedi dod o hyd i ferch 20 oed o Gymru oedd wedi bod ar goll.

Roedd y Gardaí wedi bod yn chwilio am Laura Harris ers iddi gael ei gweld ddiwethaf am 5:30 fore Llun yn St James's Street yn Nulyn.

Roedd wedi diflannu o'i chartre' yng Nghymru ar Fawrth 15.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gardaí nad yw'n arferol i ryddhau rhagor o wybodaeth am amgylchiadau unigolyn unwaith eu bod yn fodlon fod y person yn ddiogel.

Straeon perthnasol