Cynllun Twf Swyddi Cymru i 'helpu 4,000 arall'

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun sy'n helpu pobl ifanc sydd heb waith yng Nghymru'n cael ei ymestyn ar gost o £12.5 miliwn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd 4,000 yn rhagor o bobl ifanc yn elwa o Twf Swyddi Cymru yn ei bedwaredd flwyddyn.

Fe ddechreuodd y cynllun yn Ebrill 2012.

Y nod yw helpu pobl ifanc ddod o hyd i swyddi trwy roi profiad iddyn nhw, a helpu cyflogwyr trwy dalu hanner eu cyflog am y chwe mis cynta'.

Dywedodd y llywodraeth fod y cynllun wedi gwneud yn well na'r targed hyd yma.

Y nod gwreiddiol oedd creu 12,000 o gyfleoedd swyddi dros dair blynedd, i bobl ifanc di-waith rhwng 16 a 24 mlwydd oed.

Yn ôl y llywodraeth, roedd y rhaglen - sydd wedi'i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd - wedi cyrraedd y nod hwnnw yn y ddwy flynedd gynta' - gyda dros 9,00 o'r 12,000 wedi cael gwaith.

Mae'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, yn ymweld â safle hylifau Hydra Technologies ddydd Iau, wedi iddyn nhw gyflogi pump o bobl o dan y cynllun.

Roedd Ricky Owen, o Fro Ogwr, wedi bod yn ddi-waith ers misoedd ond dywedodd bod cael swydd newydd wedi trawsnewid ei fywyd.

"Roeddwn i wedi bod yn cael trafferth dod o hyd i swydd oedd nid yn unig yn apelio ata' i ond oedd hefyd yn cydfynd â'r sgiliau sydd gen i'n barod. Roedd y cyfle'n wych," meddai.

"Fe wnaeth o fy helpu i ddysgu a magu sgiliau angenrheidiol er mwyn gwneud cais ar gyfer un o'r swyddi parhaol oedd ar gael."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol