Heddlu'n canfod corff bachgen 15 oed yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn Abertawe wedi dod o hyd i gorff bachgen 15 oed yn ardal Sgeti.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Gŵyr yno am 9.30yb ddydd Iau.
Mae'r corff wedi ei adnabod fel bachgen 15 oed o ardal Dyfnant, ac mae BBC Cymru yn deall ei fod yn ddisgybl yn Ysgol yr Olchfa.
Dywed yr heddlu bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy ond nad ydy hi yn ymddangos bod yna amgylchiadau amheus.
Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae'r heddlu yn ymchwilio ymhellach i'r digwyddiad.
Dywedodd prifathro Ysgol yr Olchfa, Hugh Davies, bod pawb yn yr ysgol wedi cael sioc ac wedi eu tristau i glywed am y farwolaeth.
"Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn ymwybodol o amgylchiadau ei farwolaeth ond rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r effaith ar ei ffrindiau, athrawon a chymuned ehangach yr ysgol," meddai.
"Rydyn ni wedi rhoi cefnogaeth i ddisgyblion ac athrawon sydd wedi eu heffeithio gan y drasiedi yma."
Ychwanegodd: "Mae'n amhosib disgrifio'r galar yr ydyn ni'n teimlo dros ei deulu ac mae ein meddyliau gyda nhw ar hyn o bryd."
Bydd yr ysgol yn cau am 1:00yh ddydd Gwener fel arwydd o barch.