Achos beiciwr: dau yn euog
- Cyhoeddwyd

Mae dyn a merch o ardal Pont-y-pŵl wedi eu canfod yn euog o ddynladdiad beiciwr 63 oed haf y llynedd.
Mi wadodd Deon Morgan, sydd yn 20 oed ac Andrew Vass, 26 eu bod yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am farwolaeth John Reeder.
Mi fuodd Mr Reeder farw ar ôl iddo gael ei ddilyn ac yna ei wthio oddi ar ei feic wrth seiclo trwy ardal Pontnewynydd.
Cafodd Kieran Allcock oedd yn 18 ei ganfod yn ddieuog o gyhuddiad o ddynladdiad. Roedd Casey Coslett, 19 wedi pledio'n euog yn barod i'r un cyhuddiad mewn achos cynharach.
Bydd y dedfrydu'n digwydd ar Fehefin 9.
Dyn diniwed
Yn lleol roedd yn cael ei adnabod fel John Sipsi am ei fod yn arfer cadw ceffylau wrth ymyl llecyn sipsi. Mi ddywedodd pobl oedd yn ei adnabod na fyddai yn achosi niwed i unrhyw un.
Mi glywodd yr achos fod John Reeder wedi gwadu ymosod ar Deon Morgan y diwrnod cyn iddo farw.
Mi oedd y dyn 63 oed hefyd wedi dweud wrth ffrindiau iddo gael ei erlid gan Morgan, Vass a Coslett tra ar ei feic oriau cyn ei farwolaeth ym Mhontnewynydd.
Yn ystod oriau man Awst 7 roedd Mr Reeder yn seiclo trwy'r un ardal pan y cafodd ei ddilyn gan y criw ifanc. Roedd y pedwar wedi bod yn cymryd y cyffur mephedrone.
Clywodd y llys bod ysgwydd Casey Coslett wedi taro Mr Reeder gan achosi iddo ddisgyn oddi ar ei feic. Dywedodd un llygad dyst bod y grwp wedi cerdded at Mr Reeder a syllu arno ar y llawr cyn rhedeg i ffwrdd.
Mi fuodd John Reeder farw wedyn o'i anafiadau.