Cyhuddo dyn o achosi marwolaeth gyrrwr beic modur
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth gyrrwr beic modur drwy yrru yn anghyfrifol.
Cafodd yr achos yn erbyn Gareth Ifan Ritchie ei anfon at lys y goron ddydd Iau.
Mae'r dyn 23 oed, sydd yn dod o Gaerwys yn Sir y Fflint, yn gwadu'r cyhuddiad.
Mi fuodd Christopher Davies - oedd yn gyrru'r beic modur - farw ar ffordd Holway ym mhentref Carmel fis Awst y llynedd. Mae'r erlyniad yn dweud bod Mr Ritchie wedi achosi ei farwolaeth trwy yrru yn anghyfrifol.
Honnir bod y dyn ifanc wedi colli rheolaeth ac wedi llithro i lwybr Mr Davies.
Mae disgwyl i Mr Ritchie ymddangos o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug wythnos nesaf.