Cwmni gam yn nes at greu canolfan syrffio mewndirol
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni o Gonwy wedi cymryd y camau cyntaf i greu'r canolfan syrffio mewndirol cyntaf ym Mhrydain.
Bwriad Conwy Adventure Leisure yw adeiladu canolfan syrffio synthetig - Surf Snowdonia - ar safle hen waith alwminiwm yn Nolgarrog.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi arwyddo cytundeb swyddogol gyda datblygwyr y dechnoleg, a bod taliad sylweddol wedi ei wneud.
Os bydd caniatâd cynllunio terfynol yn cael ei roi, gall gwaith ddechrau ar y safle ym mis Mai er mwyn agor y ganolfan yn 2015.
Syrffio mewndirol
Bwriad y cynllun yw creu canolfan syrffio mewndirol, gan ddefnyddio technoleg sydd wedi ei ddatblygu gan beirianwyr yn Sbaen.
Cwmni Wavegarden sy'n gyfrifol am y dechnoleg, sy'n golygu rhoi platfform ar hyd y llyn a pheiriant o dan y dŵr i greu tonnau rhwng dwy a chwe troedfedd o uchder.
Mae'r cwmni wedi adeiladu cyfleuster prawf yng ngogledd Sbaen, ond nid yw'r dechnoleg wedi bod ar gael yn fasnachol yn unman yn y byd.
Os caiff gymeradwyaeth terfynol, gall y canolfan agor erbyn haf 2015.
Dywed y cwmni y bydd yn creu 60 o swyddi hir dymor, yn ogystal â 100 o swyddi adeiladu a swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi.
'Chwyldroi'r pentref'
Wrth gyhoeddi taliad cyntaf o saith ffigwr am y cynllun, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Conwy Adventure Leisure bod hwn yn gam pwysig.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio yn galed i ddechrau ein cynlluniau am ganolfan syrffio Wavegarden cyntaf y DU ac rydyn ni'n falch iawn i gyhoeddi cam nesaf y daith," meddai Steve Davies MBE.
"Rydyn ni wedi gweithio yn agos gyda'r tîm yn Wavegarden am gyfnod nawr ac rydyn yn falch i gael cadarnhau ein hadduned o bartneriaeth."
Dywedodd sylfaenydd Wavegarden, Josema Odriozola bod y datblygiad yn garreg filltir yn hanes ei gwmni.
"Bydd Surf Snowdonia yn chwyldroi pentref Dolgarrog a'r ffordd y mae pobl o amgylch y byd yn mwynhau syrffio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013