Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Dyn rasio ceffylau yw Andrew Misell, meddai wrthym yn Barn y mis hwn - camp na fyddai'n bod oni bai am yr awch i fetio arni, ac mewn erthygl ddifyr mae'n sôn am y cynnydd rhyfeddol yn y cyfleoedd sydd ar gael i bobl hapchwarae ers agor y bwcis cyntaf ym Mhrydain ym 1961.
Roedd y siopau hynny'n llefydd fwriadol lwm, meddai, heb fwyd na diod na sgriniau teledu na charped - cadw'r meibion afradlon a'u mynychai rhag setlo'n rhy gyfforddus oedd y nod.
Ond erbyn 1994, pan sefydlwyd y Loteri Genedlaethol, roedd y tocynnau ar gael mewn 10,000 o leoliadau, gwariwyd £50 miliwn arnyn nhw yn yr wythnos gyntaf, a chrëwyd deng miliwn o gamblwyr rheolaidd newydd o fewn pum mlynedd.
Camp fwyaf y trefnwyr, Camelot, meddai, yw ein hargyhoeddi nad gamblo yw'r Loteri, a'i fod yn perthyn yn agosach i raffl neu dombola ffair ysgol.
'Celwydd Mawr'
Dyw Vaughan Roderick ddim yn ddyn betio, meddai yn ei flog, ond mae rhyw gyffro yn amlwg ynddo wrth weld yr arwydd cyntaf fod etholiad ar y gorwel, sef bod ods etholaethau unigol yn ymddangos yn siopau'r bwcis, ac mae'n debyg bod yna ambell batrwm diddorol yn datblygu'n barod; does dim amheuaeth y cawn ni glywed dadansoddiadau difyr ac esboniadau gwerthfawr ganddo dros y flwyddyn nesaf.
Ond yn ei golofn yn y Cymro, rhagweld mwy o'r 'Celwydd Mawr' mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams.
Ymateb mae o i gwestiwn gan Aelod Seneddol Llafur Llanelli Nia Griffith a ofynnodd mewn dadl seneddol: a fyddai plant yn dymuno sefyll ar ran Plaid Cymru pe baen nhw'n cael gwybod na fyddai modd iddyn nhw gynrychioli Cymru oni bai bod ganddyn nhw ddau riant a anwyd yng Nghymru?
Yn ôl Hywel Williams mae hwn yn gelwydd mor anferthol o enau rhywun a dybir yn eirwir fel bod rhai yn siŵr o'i gredu.
Dyna yw 'Celwydd Mawr'.
Cael enw unigryw
Falle bod well gadael gwleidyddiaeth a holi beth sy'n gwneud enw da? Owain Schiavone sy'n pwysleisio ar flog Golwg 360 mor bwysig yw hi bellach cael enw unigryw i fand.
Yn yr oes sydd ohoni, mae angen rhoi mwy o feddwl i hyn nag yn y dyddiau a fu, a'r hyn sy'n allweddol ydy meddwl am enw unigryw er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i wybodaeth, neu gerddoriaeth y grŵp yn rhwydd ar beiriant chwilio'r we.
Er mor boblogaidd yw Bromas a Candelas, mae bron yn amhosib dod o hyd iddyn nhw ar Twitter am eu bod yn eiriau cyffredin yn Sbaeneg.
Roedd Geraint Lovgreen wedi'i deall hi flynyddoedd yn ôl gyda'i fand yntau ond do - yr Enw Da.
Byw yn Gymraeg
Yr wythnos ddiwethaf cawsom glywed hanes Robin Hughes sydd wedi penderfynu byw am flwyddyn yn Gymraeg, heb ddefnyddio Saesneg fel cyfrwng cyfathrebu ar lafar nac yn ysgrifenedig y tu fas i'w weithle.
Erbyn hyn, mae bythefnos i mewn i'r flwyddyn, ac er ei fod wedi wynebu ambell broblem - gyda pherchnogion un o siopau'r pentref yn bennaf, mae'n parhau'n benderfynol o ddal ati a blogio'n rheolaidd am y profiad.
Erbyn hyn mae'n chwilio am bartneriaid iaith i'w helpu - 49 o bobl i rannu'r profiad am wythnos.
Os oes diddordeb gennych chi, ewch draw at ei flog i ymuno â'r her.
Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.