Hwb i gynllun biomas posib ar hen safle Alwminiwm Môn
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau ar gyfer gwaith biomas mawr a pharc amgylcheddol ar hen safle Alwminiwm Môn, ger Caergybi, wedi cael hwb arwyddocaol.
Roedd Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan eisoes wedi caniatáu cais Lateral Power - cwmni o Gaer - ond mae newidiadau i'r cynllun gwreiddiol hefyd wedi'u cymeradwyo nawr.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae gweinidogion wedi rhoi caniatâd ar gyfer rhai newidiadau technolegol i'r orsaf biomas yng Ngweithfeydd Penrhos, Caergybi, ar Ynys Môn."
Mae disgwyl i'r safle gostio £600m ac mae gobaith y gallai greu tua 400 o swyddi, gyda phosibilrwydd o 600 yn rhagor yn cael eu cyflogi yn ystod y broses adeiladu.
Mae'r cynlluniau diweddara' yn cynnwys newidiadau i ddyluniad y safle a'r dechnoleg bwyler.
Mae disgwyl i'r orsaf gynhyrchu hyd at 299 megawat o drydan, fyddai'n ddigon i gyflenwi hyd at 300,000 o gartrefi.
Bydd gwastraff gwres a dŵr o'r safle hefyd yn cael ei ddefnyddio i greu fferm bysgod arbenigol, ac allyriadau carbon deuocsid yn cael eu defnyddio i dyfu cnydau tomato a letys.
Dyw Lateral Power ddim eto wedi prynu'r safle.
Daeth y gwaith cynhyrchu alwminiwm i ben yn Alwminiwm Môn yn 2009, gyda 400 o bobl yn colli eu gwaith.
Straeon perthnasol
- 5 Hydref 2011
- 18 Mawrth 2011