Dirwy i'r cyn joci, Carl Llewellyn am sylw hiliol
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyn joci o Gymru, Carl Llewellyn wedi cael dirwy o £1,500 am "ymddygiad sy'n niweidiol i rasio ceffylau".
Mae honiadau bod Llewellyn, sydd nawr yn hyfforddwr cynorthwyol i Nigel Twiston-Davies, wedi gwneud sylw hiliol mewn digwyddiad yn Sir Caerloyw.
Roedd yr Awdurdod Rasio Prydeinig (BHA) eisiau darganfod os oedd y sylwadau yn niweidio "enw da" rasio.
Cafodd y gwrandawiad cyntaf ar Ebrill 3 ei ohirio i alluogi i gyfreithiwr Llewellyn baratoi achos.
Roedd Llewellyn yn wynebu gwaharddiad am uchafswm o dair blynedd o'r gamp cyn cael y ddirwy.
Dywedodd yr awdurdod bod y sylwadau honedig wedi ei gwneud yn nhafarn The Hollow Bottom ar Fawrth 10.
Yn ystod ei yrfa, roedd Llewellyn yn fuddugol mewn dros 500 ras, gan gynnwys yn y Grand National yn 1992 a 1998.