Ymchwilio i fasnachu pobl: arestio dau

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae dyn a dynes wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad y Swyddfa Gartref i honiadau o fasnachu pobl o Nigeria i'r DU er mwyn eu hecsbloetio yn rhywiol.

Cafodd dyn 40 oed o'r DU a dynes 23 oed o Nigeria eu harestio yn Lewisham yn ne Llundain ar amheuaeth o fasnachu pobl, gwyngalchu arian a galluogi mewnfudiad anghyfreithlon.

Mae swyddogion yn ymchwilio i honiadau bod dioddefwyr wedi eu gorfodi i weithio mewn puteindai mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Abertawe, Caerdydd a Llundain.

Mae'r ddau gafodd eu harestio yn cael eu holi yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Dywedodd y Swyddfa Gartref bod nifer o fenywod bellach mewn gofal amddiffynnol.

Yn ôl Chris Forster, o'r Tîm Ymchwilio Troseddau: "Rydyn ni wedi arestio dau o bobl fel rhan o ymchwiliad i honiadau o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl.

"Bydd yr ymchwiliad yna yn parhau gyda'r dystiolaeth gafodd ei gymryd o gartref aethon iddo heddiw [dydd Iau].

"Mae masnachu pobl yn drosedd ffiaidd ac rydyn ni'n annog unrhyw ddioddefwyr i ddod ymlaen fel y gallwn gynnig y diogelwch a'r gefnogaeth orau posib."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.