Penodi 'Wicipediwr Preswyl' i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Cyhoeddwyd

Fe allai presenoldeb y Gymraeg ar un o wefanau mwyaf poblogaidd y byd ddatblygu yn fawr yn y dyfodol agos.
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Wicimedia UK wedi penodi Wicipediwr Preswyl er mwyn cynyddu'r cynnwys Cymraeg sydd ar gael ar y wefan.
Wicipedia yw'r fersiwn Gymraeg o'r wefan wybodaeth ryngwladol Wikipedia.
55,000 o erthyglau
Yn ôl y coleg mae rhagor na 55,000 o erthyglau Cymraeg ar Wicipedia yn barod.
Mae'r Coleg yn bwriadu rhannu rhagor o'u cynnwys addysgol, yn ogystal â chefnogi rhagor o wirfoddolwyr sydd yn creu a golygu cynnwys y wefan.
Dyma'r tro cyntaf i sefydliad Cymraeg gael partneriaeth fel hyn â Wicipedia.
Yn ôl y coleg, bwriad y bartneriaeth yw cynyddu'r cynnwys cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ar-lein, ac yn benodol deunydd addysgiadol ac academaidd.
Yn ôl Owain Huw o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol " ein nod yw sicrhau bod y doreth o gynnwys digidol cyfrwng Cymraeg ar gael yn agored i gynulleidfa fyd-eang."
Datgelodd y coleg mai Marc Haynes fydd y Wicipediwr cyntaf.
Fe fydd ganddo rôl yn hwyluso'r broses o rannu a defnyddio cynnwys addysgol y Coleg.
Carreg filltir
Dywedodd Andrew Green, Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
"Mae'r penodiad hwn yn garreg filltir ar gyfer y mudiad Wikimedia yng Nghymru ac ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Mae cael llyfrgell helaeth o wasanaethau ar flaen eich bysedd yn eich iaith ddewisol yn weledigaeth yr wyf yn frwd yn ei chylch, ac edrychaf ymlaen at weld sut fydd y bartneriaeth newydd hon yn datblygu."