Gwasanaeth Clic ar ei newydd wedd

  • Cyhoeddwyd
Clic

Cyhoeddodd S4C eu bod wedi lansio gwasanaeth ar-lein Clic ar ei newydd wedd.

Yn ol llefarydd mae'r newidiadau yn golygu "golygu bod gwylio cynnwys y Sianel, yn fyw ac ar-alw, yn fwy cyfleus nag erioed."

Mae'r wefan Clic newydd yn system hyblyg fydd yn gweithio ar amryw o blatfformau ac yn addasu ei hun ar gyfer maint y ddyfais sy'n cael ei defnyddio.

Rhwydweithiau cymdeithasol

Hefyd am y tro cyntaf bydd yn caniatáu i wylwyr rannu gwybodaeth am y cynnwys ar rwydweithiau cymdeithasol.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Rwy' wedi sôn droeon mai'r ffordd orau o ddiogelu dyfodol darlledu Cymraeg ydi sicrhau fod y cynnwys ar gael drwy ba bynnag ddull mae'r gwylwyr yn dymuno ei ddefnyddio.

"Mae gwefan Clic yn ganolog i wasanaeth digidol y Sianel ac yn galluogi pobl i ddefnyddio Clic ar fwy o ddyfeisiadau ac ar fwy o blatfformau.

"Mae hyn hefyd yn gam newydd i S4C oherwydd am y tro cyntaf, mae ein gwasanaeth ar-lein wedi arwain delwedd y Sianel gyfan. Mae'n arwydd o'n hagwedd ni wrth edrych i'r dyfodol a chydnabod fod pobl o bob oed yn manteisio ar gyfleoedd y we ar gyfer mynd at gynnwys teledu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol