Agor marina newydd Porthcawl
- Cyhoeddwyd

Mae'r marina newydd wedi costio £3.2 miliwn
Mi fydd y prif weinidog yn agor Marina newydd Porthcawl yn swyddogol yn hwyrach.
Mae'r safle newydd yn cynnwys llifddor newydd gyda chronfa barhaol o ddŵr ac mae'r marina ei hun wedi cael ei weddnewid, gydag angorfeydd ar gyfer 70 o gychod nawr ar gael - dwywaith y nifer blaenorol.
Yn ystod yr agoriad bydd yr adnoddau newydd yn cael eu dangos ar waith, gan gynnwys y system newydd ar gyfer mynediad ac ymadael gafodd ei greu gan arbenigwyr yn yr Iseldiroedd.
Yn ogystal â'r Prif Weinidog Carwyn Jones bydd nifer o wleidyddion eraill yn bresennol yn y digwyddiad gan gynnwys yr ASE Derek Vaughan a'r AS Madeline Moon.
Straeon perthnasol
- 6 Awst 2012