Heddlu'n ymchwilio i ffrwydriad ym mhentref Cas-wis
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i ddyn anafu ei law oherwydd ffrwydriad ddydd Iau.
Cafodd uned ddifa bomiau ei galw wedi i Jordan Smith, 19 oed, anafu ei law ym mhentre Cas-wis ger Hwlffordd.
Aed ag e mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys.
Gadawodd yr uned ddifa bomiau'r safle nos Iau ond mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i fod ar y safle.
Mae'r ardal o gwmpas tŷ wedi ei chau a chafodd y ffordd rhwng Cas-wis a Chryndal ei chau am gyfnod.
Dywedodd Fiona Morgan, sy'n byw yn y pentref, ddydd Iau: "Dywedodd fy mam-gu fod ambiwlans awyr yn ceisio glanio, a dywedodd cymydog fod sŵn mawr a gwynt afiach.
"Mae llawer o swyddogion yr heddlu a chŵn yr heddlu - ry'n ni'n lwcus na ddigwyddodd unrhyw beth yn agosach at y pentref.
"Mae'n bentref distaw iawn, iawn. Mae'n heddychlon fel arfer - lle bendigedig i fod."