Cwmni Avox o Wrecsam am greu 200 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Avox
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cwmni yn cyflogi 220 o weithwyr ar eu safle ym mharc Busnes Redwither

Oherwydd eu bod yn ehangu mae cwmni o Wrecsam yn dweud eu bod am greu 200 o swyddi.

Mae Avox yn darparu data arbenigol i fanciau a sefydliadau ariannol dros y byd.

Dywedodd y cwmni eu bod am gyflogi'r gweithwyr erbyn diwedd 2016 yn eu pencadlys ar Barc Busnes Redwither.

Sefydlwyd y cwmni yn 2003 ac mae'n rhan o gwmni Depository Trust and Clearing Corporation y mae eu pencadlys yn Efrog Newydd.

Dywedodd rheolwr cyffredinol Avox, Mark Davies, bod y cwmni wedi gweld cynnydd o 35% yn nifer eu cleientiaid dros y flwyddyn ddiwethaf.

"O ganlyniad i'r twf yma, ac fel rhan o ddatblygiad ehangach y Depository Trust and Clearing Corporation yn y diwydiant, byddwn yn cynyddu maint ein tîm yn sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf.

"Mae Wrecsam wedi bod yn bencadlys i ni ers sefydlu Avox yn 2003, ac rydyn ni'n gweld bod talent leol wych yn yr ardal yn gymorth i dyfu'r busnes. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau ein partneriaeth gyda'r gymuned leol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol