Ymgyrch Pallial: Arestio dyn 62 oed

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrch Pallial generic
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r dyn yn cael ei holi mewn cysylltiad â honiadau o ymosod yn anweddus ar fachgen 13 neu 14 oed yng Ngogledd Cymru yn 1976.

Mae swyddogion yr Asiantaeth Droseddau Brydeinig yn holi dyn 62 oed fel rhan o Ymgyrch Pallial.

Mae'r ymgyrch yn ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol mewn cartrefi plant yng Ngogledd Cymru.

Arestiodd Heddlu Suffolk y dyn, sy'n byw yn Barnsley, De Sir Efrog, ar Ebrill 9 oherwydd honiadau o ymosod yn anweddus ar fachgen 13 neu 14 oed yng Ngogledd Cymru yn 1976 a honiadau rhwng y saithdegau a'r nawdegau yn ymwneud ag Ysgol Breswyl Kesgrave Hall yn Ipswich, Suffolk.

Cafodd fechnïaeth tan Awst 13.

Mae Ymgyrch Pallial yn parhau gyda'u hymchwiliadau.