Yr ymateb i Adroddiad Nuffield
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad dylanwadol am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng ngwledydd Prydain wedi dweud y dylai amseroedd aros yng Nghymru beri pryder ond bod y perfformiad yn gwella mewn meysydd eraill.
Dywedodd ymchwil Ymddiriedolaeth Nuffield bod yr amseroedd aros yn "drawiadol"ond nad oedd tystiolaeth i ddangos bod y GIG yng Nghymru yn sylweddol waeth na rhannau eraill o'r DU.
Mae gwleidyddion wedi bod yn ymateb i'r adroddiad fore Gwener.
Y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford
"Mae adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield, tra'n cydnabod y problemau o gymharu Gwasanaethau Iechyd gwahanol, yn dangos bod gwelliannau clir wedi bod yn y pedair gwlad ers datganoli.
"Mewn rhai meysydd pwysig sy'n cael eu trafod yn yr adroddiad, mae Cymru'n gwneud yn dda.
"Mewn cysylltiad â'r 'ffordd mae'r GIG yn gweithio' a'r 'ffordd mae meddygon lleol a theulu'r GIG yn gweithredu'r dyddiau yma' fe ddaeth Cymru yr uchaf o fewn y DU, gyda 62% yng Nghymru'n fodlon iawn gyda'r Gwasanaeth Iechyd.
"Mae hyn yn cymharu â dim ond 53% oedd yn dweud yr un peth am y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
"Rydym yn parhau i fuddsodi yn staff GIG ac o ganlyniad mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwya' yn y nifer o nyrsys yn y cyfnod dan sylw. Rydym wedi cynyddu nifer y meddygon teulu ar gyfer pob 1,000 o bobl tra mae gwledydd eraill wedi aros yn yr unfan neu leihau ...
"Tra bod yr adroddiad yn nodi nad yw gwariant ar iechyd wedi codi yn y gwledydd datganoledig i'r un graddau â Lloegr, mae'n parhau i fod yn wir mai Lloegr sydd â'r lefel isaf o wariant ar gyfer pob pen o'r boblogaeth."
Llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar
"Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r gwahaniaethau damniol rhwng Gwasanaeth Iechyd Llafur sy'n tangyflawni a'r gwasanaethau cyfatebol mewn mannau eraill.
"Does dim syndod fod ein GIG yn disgyn ar ei hôl hi a does dim syndod fod cleifion Cymreig yn ei chael hi'n wael.
"Tra bod staff rheng flaen yn cael hwb o fuddsoddiad yn rhannau eraill y DU, mae Cymru'n cael ei heffeithio gan ddirywiad.
"Mae toriadau digynsail Llafur i'r GIG wedi effeithio ar staff a wedi gadael cleifion a'u teuluoedd mewn sioc.
"Mae gweinidogion yn sôn am ryfel ar Gymru pan maen nhw'n wynebu beirniadaeth. Y gwir yw bod y rhyfel yn erbyn y gwir, gonestrwydd a thryloywder."
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams
Mae wedi croesawu'r "ffaith fod pobl i'w gweld yn byw bywydau hirach a iachach ymhob gwlad."
"Ond, mae'r adroddiad annibynnol yma'n dangos ein bod ni'n parhau i fod ar ei hôl hi o'i gymharu â gwledydd eraill y DU, mewn cysylltiad â dangosyddion mwyaf sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd.
"Mae ein hamseroedd ymateb ambiwlans yn llawer is nag ymhob man arall ac yn gwaethygu, tra mae cleifion yn disgwyl bron dwywaith mor hir am rai o'r triniaethau mwyaf cyffredin fel cael clun neu benglin newydd - yn aml, yn disgwyl misoedd mewn poen.
"Mae'r adroddiad yn tanlinellu gwelliannau sylweddol mewn gofal yn yr Alban sy'n profi mai nid datganoli sydd wedi achosi i ni fod ar waelod pob math o'r tablau anghywir ond y llywodraeth sy'n rheoli.
"Mae Llafur Cymru angen rhoi'r gorau i roi eu pennau yn y tywod a mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein Gwasanaeth Iechyd fel bod ein staff ymroddedig sy'n gweithio'n galed ar y rheng flaen yn gallu gwneud y swydd maen nhw eisiau ei gwneud."
Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Helen Birtwhistle
"Y neges glir o'r adroddiad yma yw pa mor anodd yw hi i gymharu Gwasanaethau Iechyd ymhob un o'r pedair gwlad.
"Mae yna ddiffyg data cymharol i allu dod i gasgliadau ystyrlon am safon y gofal sy'n cael ei darparu. Mae hyn yn golygu bod y ddadl ynghylch sut mae'r systemau iechyd gwahanol yn gweithio yn canolbwyntio'r gul ar amseroedd aros, a hynny mewn modd rhy syml.
"Tra mai'r GIG yng Nghymru fyddai'r cyntaf i gydnabod fod gwaith i'w wneud er mwyn gostwng amseroedd aros ar gyfer cleifion, mae'n bwysig nodi bod amseroedd aros ond yn dangos un rhan o waith y GIG.
"Mae'r byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau yng Nghymru wedi gwneud cynnydd enfawr yn y blynyddoedd diweddar i ddarparu gofal o safon uchel i gleifion mewn sefyllfaoedd lleol, tu allan i ysbytai.
"Mae staff hefyd wedi gweithio'n galed i wella'r ffordd mae gwahanol rannau o'r gwasanaeth yn gweithio gyda'i gilydd a chyda'r gwasanaethau cymdeithasol fel bod ein cleifion mwyaf bregus yn derbyn gofal gwell a chefnogaeth gartref.
"Yn anffodus, mae'r gwelliannau yma'n rhai sy'n anoddach i'w mesur yn erbyn gwledydd eraill.
"Beth mae'r adroddiad yn ei ddangos yw, pan mae'r data ar gael, fod y GIG yng Nghymru wedi gwneud gwelliannau mawr ymhob bron pob maes, er engraifft disgwyliad oes, cyfraddau marwolaeth, a lefelau staffio.
"Mae hefyd yn bleser gweld lefelau uchel o foddhad ymhlith cleifion yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- 11 Ebrill 2014
- 2 Ebrill 2014
- 20 Chwefror 2014
- 3 Chwefror 2014