Gwrthdrawiad: Apelio am dystion
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De'n apelio am dystion wedi gwrthdrawiad difrifol ger Treherbert nos Iau.
Fe gafodd swyddogion eu galw i'r A4061 Ffordd Rhigos toc wedi saith o'r gloch.
Un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad - Volkswagen Scirocco gwyn - oedd yn teithio o gyfeiriad Hirwaun tuag at Treherbert.
Fe adawodd y car y ffordd gan blymio i geunant.
Cafodd gyrrwr y car ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd gan yr Ambiwlans Awyr.
Bu'r ffordd ar gau am oddeutu pedair awr er mwyn i'r heddlu gael dechrau ar eu hymchwiliad.
Byddai Heddlu'r De'n hoffi siarad ag unrhywun welodd y digwyddiad, neu unrhywun oedd yn yr ardal ar y pryd ag a welodd y car.
Yn ogystal, byddai'r heddlu'n hoffi siarad ag unrhywun welodd y car rhwng 3pm ac amser y gwrthdrawiad.
Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r De ar 01656 655555 est. 42339 neu drwy ffonio 101.