Edrych yn ôl ar brosiect opera yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae prosiect Opera Cenedlaethol Cymru yn Wrecsam yn dod i ben ar ôl tair blynedd.
.jpg)
Ymhlith y digwyddiadau cafodd eu trefnu yn ystod y tair blynedd oedd sefydlu Côr Caia, sef côr teuluol ar ystâd Parc Caia sydd wedi creu anthem ar gyfer Wrecsam.
Mewn cyfanswm cafodd 17 o brosiectau gwahanol eu cynhyrchu yn Wrecsam gan gynnwys opera sebon a ddigwyddodd ar strydoedd y dref.
Nod y prosiect oedd tanio dychymyg pobl Wrecsam a'u hannog i feddwl am opera yn wahanol.
Un o'r digwyddiadau eraill oedd 'Singing Doctors' a ddigwyddodd yn Ysbyty Maelor Wrecsam gyda'r nod o helpu cleifion, ymwelwyr a staff i helpu i hybu iechyd drwy pŵer cerddoriaeth.
Bydd arddangosfa o'r enw Dim Ond yn Wrecsam yn edrych 'nôl dros y gwahanol brosiectau gyda lluniau gan Jeni Clegg a raddiodd o Brifysgol Glyndŵr ac sydd wedi bod yn cofnodi'r prosiectau.
Bydd arddangosfa Dim Ond yn Wrecsam yn Oriel Wrecsam o ddydd Sadwrn 12 Ebrill tan ddydd Sadwrn 31 Mai 2014.