Cofio'r papur newydd Cymraeg cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Joseph Harris
Disgrifiad o’r llun,
Joseph Harris

Dau gan mlynedd ers cyhoeddi'r papur newydd Cymraeg cyntaf erioed, bydd cofeb yn cael ei dadorchuddio yn sir Benfro er mwyn cofio'r sylfaenydd, Joseph "Gomer" Harris.

Seren Gomer oedd y papur newydd Cymraeg wythnosol cyntaf.

Roedd yn bapur cenedlaethol i Gymru ac fe aeth i'r wasg am y tro cyntaf yn 1814.

Daeth fersiwn cyntaf y papur i ben ar ôl 85 rhifyn oherwydd trafferthion ariannol. Rhoddwyd cynnig arall arni, ac yn 1818, fe gyhoeddwyd Seren Gomer pob pythefnos, ac yna yn fisol.

Roedd Joseph Harris yn bregethwr amlwg gyda'r Bedyddwyr, yn gyhoeddwr llyfrau emynau, ac yn awdur nifer o lyfrau eraill. Gomer oedd ei enw barddol, ac roedd yn dad i'r bardd Ieuan Ddu.

Dathliad Cas-blaidd

Dywedodd un o drefnwyr y digwyddiad Parchedig Geoffrey Eynon:

"Mae'n bwysig ein bod yn cofio fe yn yr ardal ac yng Nghymru - roedd Seren Gomer yn bapur cenedlaethol i bawb yng Nghymru."

Bydd cofeb yn cael ei dadorchuddio yng nghanol pentref Cas-blaidd, ei bentref genedigol, dydd Sadwrn gyda dathliadau i ddilyn yn ysgol y pentref. Bydd y gofeb yn cael ei gosod ar garreg o fferm gyfagos Llan-ty-Dewi.