Dyn 45 oed yn gwadu twyllo clwb rygbi Tycroes
- Cyhoeddwyd

Mae Marvin Middlecoate yn gwadu twyllo clwb rygbi Tycroes ger Rhydaman
Mae dyn 45 oed wedi ymddangos yn y llys a phledio'n ddi-euog i gyhuddiad o dwyll.
Gwadodd Marvin Middlecoate ei fod wedi twyllo clwb rygbi Tycroes ger Rhydaman a chymryd £7,050 o'i arian.
Yr honiad ydy ei fod wedi addo y byddai'r gantores Alexandra Burke yn perfformio yng ngŵyl flynyddol y clwb ond wnaeth hynny ddim digwydd.
Roedd y gantores, un o gystadleuwyr The X Factor, wedi dweud nad oedd hi wedi cael gwybod am y cais i ganu ac nad oedd hi na'r bobl sydd yn ei chynrychioli wedi derbyn unrhyw arian.
Mae Mr Middlecoate o Gaint wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i'r achos ddechrau ym mis Medi.