Owain Glyndŵr: yr enw ar awyren newydd
- Cyhoeddwyd

Owain Glyndŵr fydd yr enw ar awyren newydd sydd yn dechrau hedfan o Gaerdydd i Jersey wythnos nesaf.
Cafodd yr enw ei ddewis ar ôl i tua 1,000 o bobl bleidleisio mewn pol piniwn.
Ymhlith yr enwau eraill ar y rhestr oedd Dylan Thomas, Gareth Edwards a Tanni Grey-Thompson.
Mae Owain Glyndŵr yn adnabyddus fel y dyn a arweiniodd wrthryfel am 15 mlynedd yn erbyn Harri'r IV yn ôl yn nechrau'r 15fed ganrif.
Dywedodd prif weithredwr y maes awyr, Jon Horne y bydd pobl ar draws y byd yn gwybod am yr awyren newydd oherwydd bod ganddi rwan enw cofiadwy,
Mae prif weithredwr y cwmni, Christine Ourmières yn dweud ei bod yn hapus bod y cyhoedd wedi ymateb i'r cais i gael enw newydd ar gyfer yr awyren.
"Rydyn ni yn gobeithio y bydd yn dangos ein hymrwymiad i Gaerdydd ac i Gymru yn ehangach."
Bob wythnos mi fydd pum awyren yn hedfan i Jersey o faes awyr Caerdydd. Mae'r gwasanaeth newydd yn dechrau Ebrill 17. CityJet sydd yn darparu'r gwasanaeth.
Straeon perthnasol
- 17 Medi 2012
- 16 Medi 2011