Mam yn gwadu trin ei mab ifanc yn greulon
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe wedi ei chyhuddo o greulondeb drwy roi ceirch a moron yn unig i'w mab ifanc.
Hefyd mae'r fenyw 49 oed wedi ei chyhuddo o orfodi ei mab i gysgu ar ddarnau o gardfwrdd ar lawr pren.
Mae'r fam nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol yn gwadu'r ddau gyhuddiad o esgeulustod ac un o greulondeb.
Cafodd ei harestio yn ei chartref wedi i'w mab 15 oed ddweud wrth yr awdurdodau.
Clywodd y llys y byddai'r achos yn clywed tystiolaeth y bachgen ac yn ystyried cofnodion meddygol y meddyg teulu.
Mae'r fam wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl i'r achos ddechrau ym mis Mehefin.
Mae'r bachgen ar hyn o bryd yn y system gofal.