Rowan Williams yw Canghellor newydd Prifysgol De Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae seremoni yn cael ei chynnal ddydd Llun er mwyn sefydlu'r Arglwydd Rowan Williams yn Ganghellor Prifysgol De Cymru.
Un o'i ddyletswyddau cyntaf yw rhoi doethuriaeth anrhydeddus i'r Prif Weinidog Carwyn Jones a hyfforddwr tîm rygbi Cymru Warren Gatland ymysg eraill.
Hefyd mae cyn Archesgob Caergaint yn cyflwyno doethuriaeth i Mrs Nicola Davies, barnwr llywyddol Cymru a phrif weithredwr elusen Sefydliad Joseph Rowntree, Julia Unwin.
Rôl canghellor mewn prifysgol fel arfer yw cyflwyno graddau i'r myfyrwyr. Maen nhw hefyd yn hybu gwaith y sefydliad ac yn chwarae rhan flaenllaw yn codi arian ar gyfer y brifysgol.
Dyma rôl gyhoeddus gyntaf yr Arglwydd Williams ers iddo roi'r gorau iddi fel Archesgob Caergaint yn 2012. Bu hefyd yn Archesgob Cymru cyn hynny tan 2002. Mae bellach yn Feistr Coleg Magdalen, Prifysgol Caergrawnt.
Yr wythnos ddiwethaf roedd disgwyl i'r actor a'r darlledwr Griff Rhys Jones fod yn Ganghellor Prifysgol Caerdydd, ond cafodd y penodiad ei ohirio ar fyr rybudd wedi i gwestiynau godi ynglŷn â pheidio cynnig ail dymor i'w ragflaenydd.
Ffanfer newydd
Mae'r seremoni ddydd Llun yn digwydd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, ac mae darn newydd o gerddoriaeth wedi ei gyfansoddi yn arbennig ar gyfer y digwyddiad.
Y cyfansoddwr rhyngwladol Gareth Wood sydd wedi creu'r ffanfer ac mi fydd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf gan fyfyrwyr y coleg.
Yn y seremoni mae yr Athro Philip Gross, enillydd gwobr TS Eliot, yn darllen ei farddoniaeth
Dywedodd Dr Rowan Williams wedi'r cyhoeddiad mai ef fyddai Canghellor newydd y brifysgol ei fod yn falch o'r cyfle.
"Mae gan Brifysgol De Cymru bresenoldeb o bwys ym Mhrydain ac yn y byd o fewn cymuned y sector addysg uwch. Mae'n rym nerthol ar gyfer newid positif yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- 16 Mawrth 2012