Ymgyrch: 'hybu mwy i ddefnyddio'r we'

  • Cyhoeddwyd
Y we

Mae ymgyrch newydd i geisio hybu mwy o bobl i ddefnyddio'r we wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru.

Mae tri phrosiect yn rhan o'r cynllun, a bydd y tri yn canolbwyntio ar roi cymorth i wahanol rannau o gymdeithas sydd leiaf tebygol o ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y bwriad yw sicrhau fod gan bob rhan o gymdeithas y gallu i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw dan anfantais.

Mae'r fenter yn cael ei chynnal gyda chymorth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd.

Tri phrosiect

Bydd y grŵp cyntaf yn cael ei arwain gan Bawso, mudiad cenedlaethol sy'n cefnogi menywod sy'n agored i niwed, a bydd yn cael ei anelu at bobl o leiafrifoedd ethnig.

Mi fydd y staff yn rhai sydd ag arbenigedd mewn ieithoedd a diwylliannau gwahanol y grwpiau, ac fe fyddan nhw'n cynnig hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Rhaglen beilot yw'r ail brosiect fydd yn rhan o'r bartneriaeth Symud Ymlaen, sy'n gweithio â phobl ifanc sy'n gadael gofal a phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu.

Yn ogystal bydd yn cynnig profiad gwaith i bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed sydd wedi gadael yr ysgol ac sydd ddim mewn addysg, gwaith cyflogaeth na hyfforddiant.

Bydd y trydydd prosiect, Bywydau Cymhleth, yn rhoi cymorth i bobl sydd mewn perygl o gael eu gwneud yn ddigartref i gael mynediad i'r we.

'Datgysylltu'

Wrth gyhoeddi'r fenter, dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert:

"Mae helpu grwpiau anodd eu cyrraedd i fynd ar-lein yn hollbwysig. Mae mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein, gan gynnwys gwasanaethau'r sector cyhoeddus. Mae'n rhaid i ni sicrhau pawb yn cael y cyfle i fanteisio ar y ffordd newydd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu.

"Mae pobl ar incwm isel, pobl hŷn a phobl anabl a'r rheini sydd wedi'u datgysylltu â chymdeithas am ba bynnag reswm yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu cau allan.

"Mae hyn gan nad oes ganddyn nhw'r sgiliau i ddefnyddio'r rhyngrwyd nac unrhyw ffordd i'w ddefnyddio. Mae hyn yn golygu eu bod yn colli allan ar gyfleoedd i gael cyngor am arian, gwybodaeth am swyddi a hyfforddiant a disgowntiau ar wasanaethau hanfodol.

"Maen nhw hyd yn oed yn cael eu cloi allan o'u cymunedau. Dyna pam mae'r prosiectau hyn, gyda help ariannol yr Undeb Ewropeaidd, mor bwysig."