Carchar am losgi cartref 'ffrind gorau'
- Cyhoeddwyd

Mae adeiladwr wedi cael ei garcharu am 32 mis am gynnau tân yn fwriadol.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Alan O'Reilly wedi rhoi cartref cyn-bartner - oedd hefyd yn ffrind gorau iddo am 30 mlynedd - ar dân.
Roedd O'Reilly, 42 oed o Fae Cinmel, yn credu ei fod wedi colli gwaith i'w gyn-bartner Ian Hughes.
Fe wnaeth Mr O'Reilly gyfaddef i'r cyhuddiadau o losgi'n fwriadol, a bod yn ddi-hid o fywydau'r dioddefwr, ei gymdogion ac aelodau o'r gwasanaethau brys.
Ar Tachwedd 8, 2013, fe wnaeth O'Reilly gynnau tân mewn ystafell bren ar ochr byngalo Mr Hughes yn Tan yr Allt, Gallt Melyd.
Daeth gwraig Mr Hughes, Dawn Hughes, adref gyda'u plentyn i ddarganfod y tân. Cafodd difrod werth £6,500 ei wneud i'r adeilad.
Arestiwyd y diffynnydd wedi i'w DNA cael ei ddarganfod ar dun petrol gafodd ei adael ger y tŷ, ac a ddefnyddiwyd i gynnau'r tân.
Dywedodd yr erlynydd, Emmalyne Downing, bod ffôn symudol Mr O'Reilly, wedi cael ei nodi ar fast yn yr ardal.
Meddai'r Barnwr Niclas Parry: "Gallai'r tân fod wedi arwain at farwolaethau."