Galw am 'eglurder' am gynlluniau i uno cynghorau lleol.
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y corff sydd yn cynrychioli awdurdodau lleol, wedi galw am eglurder oddi wrth Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, am gynlluniau i uno cynghorau'r wlad.
Daeth comisiwn oedd wedi ei sefydlu gan lywodraeth Cymru i'r casgliad ym mis Ionawr fod angen cwtogi'r nifer o gynghorau sydd yn bodoli ar hyn o bryd.
Roedd adroddiad y comisiwn yn dweud y dylid gweithredu ar yr awgrymiadau erbyn y Pasg, ond hyd yn hyn does dim cytundeb wedi bod ymysg y pleidiau gwleidyddol.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod am gael cytundeb ar fap newydd i lywodraeth leol erbyn yr haf.
Yn ôl argymhellion Comisiwn Williams, fe ddylai'r nifer o awdurdodau lleol gael eu cwtogi drwy uno cynghorau gwahanol - gyda chyfanswm o 10, 11 neu 12 cyngor mewn bodolaeth ar ddiwedd y broses uno.
Dywedodd yr adroddiad y dylid gwneud newidiadau i'r drefn bresennol yn ''sydyn a phendant'', ac y dylid paratoi cytundebau uno rhwng gwahanol gynghorau erbyn y Pasg 2014 ar yr hwyraf.
Ond fe fethodd y pleidiau gwleidyddol ym Mae Caerdydd â dod i gytundeb yn dilyn trafodaethau cychwynnol.
Disgwyl ymateb
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae'n disgwyl am ymateb swyddogol Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Williams - ymateb sydd wedi ei addo gan y llywodraeth ers yr haf.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Steve Thomas, wrth raglen BBC Sunday Politics Wales: ''Yr hiraf mae hyn yn llusgo yn ei flaen, felly mae'n tyfu'n fwy o broblem.''
''Mae'n ymddangos i mi ein bod mewn sefyllfa lle mae awgrymiadau Williams i bob pwrpas yn cael eu dadlau gan y pleidiau gwleidyddol ar draws Cymru. Maen nhw'n cael eu dadlau o fewn llywodraeth leol ac mae hyn yn sicr wedi arafu pethau.''
"Rwy'n meddwl ein bod ni nawr angen amserlen glir iawn am sut y mae'r adroddiad yn mynd i gael ei weithredu. Mae ganddo ni 150,000 wedi eu cyflogi yn llywodraeth leol Cymru a fedrwn ni ddim cael cleddyf Damocles yn hongian drostyn nhw am y 5 neu 6 mlynedd nesaf,'' meddai.
''Rwy'n credu fod y syniad fod hyn am gael ei selio, ei arwyddo a'i ddelifro erbyn y Pasg ar gyfer ein hwyau wedi bod yn optimistaidd iawn.''
'Annhebygol'
Er bod y Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud ei fod am weld cytundeb rhwng y pleidiau ar fap ail-drefnu cynghorau Cymreig, mae llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol yn dweud fod hyn yn annhebygol.
''Beth mae e eisiau yw map Plaid Lafur'', meddai Rhodri Glyn Thomas.
Ychwanegodd: ''Fedrwn ni ddim cael ein rhoi mewn sefyllfa lle rydym yn cael ein gofyn i lofnodi rhywbeth sydd yn cael ei gytuno o fewn y Blaid Lafur ac yn digwydd i blesio'r Blaid Lafur''.
Pan ofynnwyd a oedd yn credu y byddai gobaith y Prif Weinidog o gael cytundeb trawsbleidiol erbyn yr haf am ddigwydd, fe ddywedodd: ''Rwy'n amau hynny'n fawr ar y foment.''
Ynghyd â cheisio darganfod cytundeb ymysg y pleidiau gwleidyddol, mae'r Prif Weinidog hefyd yn wynebu'r sialens o gynhyrchu cynllun fydd yn dderbyniol i'w blaid ei hun.
Mae'r sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes yn credu na fydd uno cynghorau yn digwydd am gryn amser tan ar ôl etholiadau'r Cynulliad yn 2016, os o gwbl.
Meddai: ''Pan mae swyddi'n rhan o hyn, pan fod cynghorwyr yn y fantol fyddai'n gallu colli seddi yna mae'n fater cwbl wahanol o symud o'r theori i'r ymarferol.''
''Mae'n rhaid i'r Prif Weinidog gyflawni hyn ond mae'n rhaid iddo ei gyflawni drwy blaid lle mae'r mwyafrif o ymgyrchwyr yn ymwneud â llywodraeth leol. Fydd newid ddim yn beth hawdd i'w gyflawni.''
Consensws
Dywedodd un aelod o Gomisiwn William ei fod yn gobeithio y bydd pleidiau yn siarad gyda'i gilydd i adeiladu consensws.
Fe ddywedodd yr Aglwydd Bourne o Aberystwyth, sydd yn gyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ei fod ''wedi siomi fod y momentwm i'w weld wedi ei goli'' yn dilyn y sylw a roddwyd pan gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ''Tra'i fod yn bwysig ein bod yn symud yn sydyn, mae'n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser sydd ei angen i gael hyn yn iawn.''
Bydd Sunday Politics Wales yn cael ei ddarlledu ar BBC 1 Wales am 11.00am ddydd Sul.