Gweilch 25 - 19 Leinster

  • Cyhoeddwyd

Gweilch 25 - 19 Leinster

Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth haeddianol gartref yn erbyn Leinster nos Wener, gan guro'r tîm o Iwerddon am y tro cyntaf y tymor hwn.

Dyma'r pedwerydd tro i'r ddau glwb gyfarfod yn ystod y tymor, ac fe fydd y canlyniad yn cadw gobeithion y Gweilch o gyrraedd gemau ail-gyfle cystadleuaeth y Pro12 yn fyw.

Daeth cais yr un i'r ddau dîm mewn cyfnod o bum munud cyn diwedd yr hanner cyntaf - Jeff Hassler yn sgorio i'r Gweilch wedi 33 munud, ac yna Cian Healy i Leinster wedi 37 munud.

Yn yr ail hanner roedd gêm gicio agos yn golygu fod y canlyniad yn y fantol am gyfnod hir.

Roedd cicio cywrain Dan Biggar yn ddigon yn y diwedd i wahanu'r ddau dîm, ac yntau'n hawlio 20 pwynt i gyd i'r Gweilch ar y noson.

Wedi'r fuddugoliaeth mae'r Gweilch yn y pumed safle, ond gyda'r un faint o bwyntiau a Glasgow yn y pedwerydd safle, sydd yn chwarae ddydd Sadwrn.