Caeredin 22 - 29 Gleision Caerdydd

Llwyddodd Gleision Caerdydd i sgorio pedwar cais yn eu buddugoliaeth oddi cartref ar gae Meggetland yng Nghaeredin nos Wener yng nghystadleuaeth y Pro12 - gan sicrhau pwynt bonws hefyd.

Daeth y pedwar cais i'r Gleision gan Cory Allen (2 gais) Dan Fish a Dafydd Hewitt, ond doedd hi ddim yn fuddugoliaeth hawdd wrth i Gaeredin hawlio tri chais yn erbyn yr ymwelwyr - Matt Scott, Tom Brown a Cornell Du Preez yn croesi'r llinell i'r tîm cartref.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod y Gleision bellach yn y nawfed safle yn y tabl gyda 33 o bwyntiau.