Tri chynnig i Gymro

  • Cyhoeddwyd
Gareth WarburtonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Gareth Warburton yn rhedeg yn Gemau'r Gymanwlad am y trydydd tro

Mae'r hen ddihareb 'Tri chynnig i Gymro' yn un sydd wedi ei gor-ddefnyddio ar adegau, ond mae'n un sy'n addas dros ben i'r athletwr Gareth Warburton.

Mae'r rhedwr 800m o Gaernarfon yn paratoi am Gemau'r Gymanwlad am y trydydd tro, ac mae ganddo 100 diwrnod yn weddill i baratoi.

Fel llanc ifanc yn Melbourne yn 2006, fe orffennodd yn bumed yn y 400m.

Erbyn Gemau Delhi yn 2010, roedd wedi symud i'r 800m, ac fe orffennodd yn bedwerydd.

'Cymru ar y map'

Y trydydd cynnig am fedal fydd hi yn Glasgow eleni felly, ac fe fu Gareth yn siarad gyda Newyddion Ar-lein o Faes Awyr Caerdydd o fewn munudau iddo adael am ymarfer tywydd cynnes ym Mhortiwgal ddydd Gwener.

"Rydan ni'n cwrdd fel tîm am y tro cyntaf yn y maes awyr yma," meddai Gareth.

"Gan fod y campau i gyd yn rhai unigol, dyw hynny ddim yn digwydd yn aml, ond mae'r ysbryd yn dda.

"Mae Gemau'r Gymanwlad yn bethau sbesial iawn i ni, oherwydd dim ond unwaith bob pedair blynedd ydan ni'n cael cyfle i gystadlu fel Cymru a rhoi Cymru ar y map."

Rhan amser

Disgrifiad o’r llun,
Dechreuodd y gwaith o baratoi Parc Hampden yn Glasgow dros ddwy flynedd yn ôl

Ar ôl dod mor agos i fedal yn Delhi yn 2010 fe gafodd Gareth y fraint o gystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yn Llundain 2012, ac fe fydd y profiad yna'n siŵr o fod o fantais iddo yn Glasgow.

Ond mae llwyddiant yn anodd ei broffwydo, medd Gareth.

"Mae'n dibynnu i raddau pwy sy'n troi fyny - pethau fel yna yw Gemau'r Gymanwlad.

"Os fydd pob gwlad yn gyrru'r athletwyr gorau, fe allai fod yn anodd, ond ar y llaw arall os oes un neu ddau yn tynnu nôl mae gen i obaith da."

Yr hyn sy'n fwy heriol i athletwyr fel Gareth Warburton yw nad yw wedi cyrraedd y safon lle mae'n medru bod yn athletwr llawn amser.

Mae'n cyfuno'i yrfa fel athletwr gyda'i waith rhan amser yn llyfrgell Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) tra'n ymarfer gyda'i hyfforddwr yn y brifddinas.

Ac er ei fod yn teithio i Bortiwgal i ymarfer yr wythnos hon, mae'n credu bod hynny o gymorth iddo.

'Gwynt a glaw'

Dywedodd: "Er gwaetha'r son am broblemau yn Delhi bedair blynedd yn ôl roedd popeth yn iawn i fi pan nes i gyrraedd...ond roedd hi'n boeth iawn.

"Gyda'r Gemau yn Glasgow y tro yma, faswn i'n meddwl bod ymarfer yng Nghaerdydd yn baratoad perffaith o ran y tywydd - glaw a gwynt gewch chi yn y ddau le!

"Wedi dweud hynny dwi'n meddwl bod yr athletwyr i gyd yn gobeithio am dywydd cynnes - mae hi dipyn haws rhedeg yn yr haul."

Ychwanegodd Gareth fod cynrychiolwyr tîm Cymru wedi bod yn ymweld â Pharc Hampden yn Glasgow a bod popeth yn edrych yn wych.

Fe gawn weld ymhen 100 diwrnod, ac fe gawn obeithio y bydd Gareth - a nifer o Gymry eraill - yn dychwelyd o'r Alban gyda phwysau ychwanegol medalau yn eu bagiau yn y maes awyr.