Camau disgyblu i ddau o staff Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Palace Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr Adar Gleision grasfa gartref yn erbyn Crystal Palace, gan golli o dair gôl i ddim

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi dechrau'r broses o ddisgyblu dau aelod o staff.

Mae hyn yn dilyn honiadau fod manylion y tîm gafodd ei ddewis i chwarae yn erbyn Crystal Palace wedi cael eu rhoi i'r gwrthwynebwyr o flaen y gêm.

Yn ôl yr hyn mae'r BBC yn ddeall, mae'r mater yn cael ei drin fel un o gamymddwyn difrifol, ac mae'n cael ei ystyried yn fater allai arwain at y sac.

Dywedodd y rheolwr Ole Gunnar Solskjær nad oes amheuaeth fod yr un chwaraewr wedi gwneud unrhyw beth o'i le.