Griff Rhys Jones: Esbonio'r gohirio
- Cyhoeddwyd

Cafodd penodiad Griff Rhys Jones fel Canghellor Prifysgol Caerdydd ei ohirio ar y funud olaf oherwydd bod rhai yn teimlo y dylai'r canghellor presennol gael cynnig i barhau yn ei swydd.
Fe wnaeth rhai aelodau o Lys y Brifysgol wrthod cymeradwyo penodiad Mr Jones, gan ddadlau y dylai'r Athro Syr Martin Evans gael cynnig pum mlynedd arall.
Mae'r brifysgol wedi cadarnhau nad oes unrhyw broblem ynghylch enw da'r ddau ddyn, ac mai mater sy'n ymwneud â'r broses o benodi sy'n gyfrifol am y gohiriad.
Mae BBC Cymru ar ddeall bod Syr Martin - oedd yn cadeirio'r cyfarfod - wedi dweud y byddai o'n debygol o fod wedi derbyn y cynnig pe bai un wedi ei wneud.
Fe wnaeth Syr Martin adael y cyfarfod er mwyn i'r aelodau eraill oedd yn bresennol gael trafod y mater.
Cafodd penderfyniad ei wneud i gyhoeddi fod penodiad Griff Rhys Jones yn cael ei ohirio - 40 munud yn unig cyn iddo gael ei gyflwyno fel y Canghellor newydd.
'Amharchus'
Mae un aelod o Lys y Brifysgol, oedd am aros yn ddienw, wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn arferol i Ganghellor gael cynnig ail dymor.
"Chafodd e ddim cynnig ac roedd llawer o bobl yn meddwl fod hynny'n amharchus," meddai.
Fe ddywedodd y ffynhonnell fod y gŵr wnaeth godi'r mater, yr Athro Ron Eccles, eisiau penodi Syr Martin i'r rôl yn y fan a'r lle, ond bod rheolau'r brifysgol yn golygu fod angen i Gyngor y Brifysgol ystyried y mater eto.
Nid yw'n glir ar hyn o bryd pryd fydd hynny'n digwydd.
Mae'n debyg i swyddogion orfod rhedeg o'r cyfarfod yn dilyn y penderfyniad er mwyn ceisio atal y cyhoeddiad swyddogol fod Mr Jones wedi cael ei benodi.
'Ffrind gwerthfawr'
Mewn datganiad, dywedodd y brifysgol: "Mae Griff Rhys Jones yn ffrind gwerthfawr i Brifysgol Caerdydd. Fe wnaeth Llys y Brifysgol gynnal ei gyfarfod blynyddol ddoe er mwyn trafod busnes ac ystyried penodiad yr Athro Syr Martin Evans.
"Mae Prifysgol Caerdydd eisiau ei wneud yn glir nad yw enwau da Griff Rhys Jones na'r Athro Syr Martin Evans yn cael eu cwestiynu.
"Ni chafodd penodiad ei ystyried yn y cyfarfod oherwydd fod pwynt ynglŷn â phroses wedi cael ei godi.
"Roedd y Llys eisiau eglurder am y broses benodi, fel sy'n cael ei amlinellu yn ordinhadau'r brifysgol, ac mae hyn wedi cael ei gyfeirio nôl i'r Cyngor am eglurder."
Nid oedd Griff Rhys Jones am wneud sylw ar y mater.
Straeon perthnasol
- 10 Ebrill 2014